{Kowydd ir drych}
1 Ni thybiais ddewrdrais ddirdra
2 na bae deg fwyneb a da
3 onim syniais yn amlwg
4 yn y drych llyna vn drwg
5 dywad ymi or diwedd
6 y drych nad wyf wych o wedd
7 melyny am ail enid
8 maer grydd ag nid mawr y gwrid
9 gwydr yw grydd gwedi griddfan
10 achlais melynlliw a chlan
11 odid na ellid ellyn
12 or trwyn hir pand tryan hynn
13 ond diriaid bod llygaid llonn
14 yn dyllav teredr deillion
15 ar fflywch bengrech ledechwyrth
16 bob ddyrnaid oi said a syrth
17 mawr arnaf naid diraidi
18 y mae/r/ naill yn y marn i
19 ai mod yn bifr ar ddifrych
20 natyr drwg ai nid da/r/ drych
21 os arnaf drwy naws hirnwyf
22 i maer bai poed marw i bwyf
23 os ar y drych brych o bryd
24 y bv/r/ bai wb or bowyd
29 bid frevddwyd byd afrwydda
30 brevder yw a brawd ir ia
27 hadlyd yw hydol o dlws
28 hydolion ai hadeilws
31 ffalsaf gwir ddiwynaf gwas
32 fflam fo/r/ drych mingam meingas
33 nim gwnaeth neb yn wynebgrych
34 os gwir coiliaw draw ir drych
35 onid y ferch o wynedd
36 yna gwys ddiwynaw gwedd
dauid ap gwylym ai cant